Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Ionawr 2013 i’w hateb ar 22 Ionawr 2013

 

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gostyngiad yn nifer y myfyrwyr yng Nghymru sy’n gwneud cais am brifysgolion a’r effaith ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllido myfyrwyr. OAQ(4)0862(FM)W

2. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ledled Cymru. OAQ(4)0865(FM)

3. Elin Jones (Ceredigion): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru. OAQ(4)0857(FM)W

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei bolisi yng nghyswllt Addysg Uwch Cymru. OAQ(4)0854(FM)

5. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn Nhor-faen. OAQ(4)0867(FM)

6. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i goffáu bywyd a gwaith Alfred Russel Wallace eleni. OAQ(4)0868(FM)

7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y manteision economaidd a ddaeth i ranbarth Bae Abertawe oherwydd dyrchafiad Dinas Abertawe i Uwchgynghrair Lloegr. OAQ(4)0855(FM)

8. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella bywydau trigolion Canol De Cymru. OAQ(4)0860(FM)

 

9. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A oes gan y Prif Weinidog unrhyw bryderon ynghylch enw da sector Addysg Uwch Cymru. OAQ(4)0859(FM)

 

10. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar fudd-dal y dreth gyngor. OAQ(4)0856(FM)W

 

11. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi yng Nghymru. OAQ(4)0858(FM)

 

12. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0863(FM)

 

13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer iechyd yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0866(FM)

 

14. Nick Ramsay (Mynwy): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu twf busnesau yng Nghymru. OAQ(4)0861(FM)

 

15. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Beth yw blaenoriaethau’r Prif Weinidog o ran gweithredu ei gyfrifoldebau strategol dros bolisi ynni yn ystod 2013. OAQ(4)0864(FM)W